BYD O HEDDWCH Gawn ni weld pob dyn Ryw dro’n gytun? A ddaw holl genhedloedd byd Yn ffrindiau i gyd? Pawb yn byw mewn heddwch Dan ofal Duw? Gaiff pob iaith a diwylliant Y cyfle i gyd-fyw? Parchu’r gwan ac estyn llaw, Bod â ffydd mewn byd a ddaw; Herio cam, trais a chywilydd, Dileu pob ofn a braw. Gwelwn fyd o heddwch Di-drais, di-staen, Hedd i holl genhedloedd daear A hyfryd wawr o’n blaen. O’n blaen - mynyddoedd A berw’r lli, Cyn daw “dydd y rhai bychain” Ac urddas gwir i ni. Parchu’r gwan ac estyn llaw, Bod â ffydd mewn byd a ddaw; Herio cam, trais a chywilydd, Dileu pob ofn a braw. Gwelwn fyd o heddwch Di-drais, di-staen; Hedd i holl genhedloedd daear; A hyfryd wawr o’n blaen. A hyfryd wawr o’n blaen; Hedd i holl genhedloedd daear A hyfryd wawr o’n blaen A hyfryd wawr o’n blaen. Penri Jones.