Тёмный

#21 Trac Cymru 21+1: Cerddoriaeth i’r Dyfodol / Music For The Future 

Trac Cymru
Подписаться 1,1 тыс.
Просмотров 140
50% 1

Stori 21 o'n 21+1 llwyddiant - Cerddoriaeth i'r dyfodol 🤩
Rydym yn dod i derfyn ein taith drwy straeon o 21+1 mlynedd o waith yr elusen wrth roi sylw i un o sêr disglair y genhedlaeth ddiweddaraf o gerddorion gwerin newydd sydd bellach yn dechrau graddio o Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru i yrfaoedd proffesiynol cyffrous - Cerys Hafana, sy’n swyno cynulleidfaoedd newydd yn barod gyda’i cherddoriaeth arbrofol ar y delyn deires eiconig.
Mae Cerys wedi teithio trwy raglen ddatblygu Trac Cymru dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, gan gynnwys mynychu ein cyrsiau preswyl Gwerin Gwallgo cyn cael ei dewis fel un o aelodau’r Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru, sydd wedi derbyn clod a bri dan yr enw Avanc.
Mae Cerys yn enghraifft wych arall o’r modd yr ydym yn helpu i feithrin angerdd a sgiliau cerddorion ifanc, ac yna cynnig cyfleoedd iddynt ddysgu sgiliau ymarferol sy’n hanfodol iddynt ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddorol yn y dyfodol.
Mewn cyfweliad ecsgliwsif yn y fideo yma, mae Cerys yn trafod ei thaith gyda’r delyn deires, pam fod yr offeryn yn rhan mor arwyddocaol o’n diwylliant, a sut y mae wedi rhoi ei llais a’i harddull unigryw ei hun iddi. Mae’n sôn am y gefnogaeth a dderbyniodd gan Trac Cymru, a’r ffrindiau am oes y daeth i’w hadnabod trwy ei gwaith gydag Avanc. Mae Cerys hefyd yn angerddol dros bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae’n trafod ei hargyhoeddiad y dylai cerddoriaeth werin gynrychioli pobl Cymru fel y maent heddiw.
Cefnogwch ni trwy rannu’r straeon hyn â’ch ffrindiau neu gydweithwyr, ac ymunwch â ni trwy rannu eich atgofion hapus eich hunain am gerddoriaeth werin Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r hashnod #TRAC21.
Gallwch hefyd ein helpu i ariannu ein gwaith trwy gyfrannu heddiw 👇
cafdonate.cafo...
Darllenwch y stori llawn yma 👇
trac.cymru/cy/...
--
Story 21 of our 21+1 successes - Music for The Future 🤩
We conclude our journey through stories from the 21+1 years of the charity’s work with a focus on one of the bright stars from the latest generation of emerging folk musicians who are now starting to graduate from The Youth Folk Ensemble of Wales into exciting professional careers - Cerys Hafana, who is rapidly winning new audiences with her musical exploration of the iconic triple harp.
Cerys has progressed through Trac Cymru’s development programme over several years, including attending our Gwerin Gwallgo residential courses before being selected for a place in the The Youth Folk Ensemble of Wales, which has gone on to receive great acclaim under the band name Avanc.
Cerys is another great example of how we help to nurture the passion and skills of young musicians and then provide them with opportunities to learn vital practical skills for a future career in the music industry.
In the exclusive interview in the following video, Cerys discusses her journey playing the triple harp, why the instrument is so culturally significant, and how it has given her a unique voice and style of her own. She talks about the support Trac Cymru has given her and the friends she has made for life through her work with Avanc. Cerys is also passionate about the importance of diversity and inclusion, and speaks about her belief that folk music should represent the people of Wales as they are today.
Please support us by sharing these stories with your friends and colleagues, and join us in posting your own happy memories about Welsh folk music on social media #TRAC21,
You can help us fund our work by making a donation today 👇
cafdonate.cafo...
Read the full story here 👇
trac.cymru/en/...

Опубликовано:

 

24 ноя 2022

Поделиться:

Ссылка:

Скачать:

Готовим ссылку...

Добавить в:

Мой плейлист
Посмотреть позже
Комментарии    
Далее
#4 Trac Cymru 21+1: AVANC
5:39
Просмотров 161
Se las dejo ahí.
00:10
Просмотров 851 тыс.
Fallen Through The Cracks
11:01
Просмотров 116
Relaxing Music For Stress Relief
16:07
Просмотров 347