Gredwch chi byth, ond mae Dafydd Iwan wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru am dros hanner canrif. Ac ers y cychwyn cyntaf, yn Abergwaun yn 1962, mae ei ganeuon wedi gafael ym mhobl Cymru fel cyfeiliant i hanes Cymru dros yr hanner can mlynedd ddiwethaf.
Mae gwreiddiau Dafydd yn ddwfn yn naear Maldwyn ar ochr ei fam, ac yr oedd tyddyn Esgair Llyn, a anfarwolwyd ganddo, ar dir fferm y teulu yn Aberhosan. Bu'n canu droeon ar lwyfan y Pafiliwn ac mae’n un o ffrindiau triw'r Eisteddfod Genedlaethol a’r Noson Lawen.
Ymuna Côr Ysgol Theatr Maldwyn â Dafydd Iwan i berfformio ‘Esgair Llyn’.
Côr Ysgol Theatr Maldwyn join Dafydd Iwan to perform ‘Esgair Llyn’.
16 окт 2024