Mae ‘Dywed, beth oedd ei chyfrinach?’ yn gerdd gomisiwn gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, a Casi Wyn, Bardd Plant Cymru 2021 - 2023. Perfformiwyd y cywaith dwyieithog ganddynt ar 10 Mehefin 2023 pan ddadorchuddiwyd cerflun Cranogwen yn Llangrannog - dathliad o’r diwrnod arbennig hwnnw sydd i’w weld yn y fideo.
Comisiynwyd y gerdd gan Llenyddiaeth Cymru i ddathlu tri pheth, sef y cerflun newydd, cyfraniad Cranogwen yn codi llais dros hawliau merched yng Nghymru, a gwaith clodwiw gwirfoddolwyr mudiad Cerflun Cymunedol Cranogwen yn gwireddu’r uchelgais o godi cofeb i’r bardd o Langrannog.
***
A poem by the National Poet of Wales, Hanan Issa, and Bardd Plant Cymru 2021-2023, Casi Wyn.
This poem was commissioned by Literature Wales to note the unveiling of the statue of Cranogwen in Llangrannog, 10 June 2023.
8 янв 2024