Seminar Two: Miniatures and the West
This event included a curator, an art historian and artists (Jethro Buck & Elisabeth Deane) who discussed the two-way traffic between painting in the Mughal courts and Anglo-European styles. Moreover, this Seminar highlighted that interaction between British and South Asian art is not a thing of the past: the Mughal-inspired paintings of Buck and Deane, who studied under master miniaturists in India, stand testament to this.
The influence of European imagery on Mughal painting is a fascinating and well-researched subject of South Asian art history. This paper will consider the opposite phenomenon: the circulation of Indian paintings in 17th century Europe and the impact of Mughal art on painters of the Dutch Golden Age. Emily will focus in particular on Willem Schellinks (1627-1678) and explore a hitherto unidentified painting attributed to the artist in the Royal Collection depicting the Mughal emperor Shah-Jahan.
_____
Seminar Dau: Miniaturau a’r Gorllewin
Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys curadur, hanesydd celf ac artistiaid (Jethro Buck ac Elisabeth Deane) a fu'n trafod yr arddulliau paentio yn y llysoedd Mogylaidd a'r arddulliau Ewropeaidd. Hefyd, mae'r seminar hwn yn amlygu’r ffaith nad yw'r rhyngweithiad rhwng celf Prydeinig a De Asiaidd yn perthyn i'r gorffennol: mae paentiadau Buck a Deane, a ysbrydolwyd gan Mughal, a astudiodd dan adain prif ddarlunwyr miniaturau yn India yn enghraifft dda o hyn.
Mae dylanwad delweddaeth Ewropeaidd ar baentiadau'r Mughal yn bwnc hynod ddiddorol, ac mae'n faes o hanes celf De Asia y gwnaed cryn dipyn o ymchwil iddo. Bydd y papur hwn yn ystyried y ffenomen gyferbyniol: cylchrediad paentiadau Indiaidd yn Ewrop yr 17eg ganrif ac effaith celf y Mughal ar beintwyr Oes Aur yr Iseldiroedd. Bydd Emily yn canolbwyntio’n benodol ar Willem Schellinks (1627-1678) ac yn archwilio paentiad yn y Casgliad Brenhinol a fu'n anhysbys tan hyn ac sydd wedi'i briodoli i’r artist, sy'n portreadu ymerawdwr Mughal, Shah-Jahan.
12 авг 2020