Sengl Dawns Indi hafaidd newydd gan Yws Gwynedd wedi’i gynhyrchu a’i recordio gan yr amryddawn Rich James Roberts, sydd hefyd drymio i’r band. Mae’r trac yn enghraifft fywiog o naws cerddorol y band a’r cynhyrchydd. Mae Balafon N'famady Kouyate yn ymddangos ar y recordiad hefyd, a hon yw sengl cyntaf y band ers mis Awst y llynedd.
Mae Bae yn dapestri cyfoethog o sain sy'n cyhoeddi'r albwm sydd i ddod, fydd yn cynnwys set llawn o draciau, sydd wedi'i recordio dros gyfnod o 2 flynedd. Mae'r albwm hir-ddisgwyliedig, gyda dyddiad rhyddhau wedi'i osod cyn diwedd y flwyddyn.
I gyd-fynd a’r sengl, dyma fideo sydd yn wledd weledol ac yn serennu Saran Morgan a Gwion Morris Jones.
Cerddoriaeth
Yws Gwynedd
Actorion
Saran Morgan
Gwion Morris Jones
Cynhyrchydd a Cyfarwyddwr
Aled Wyn Jones
Is- Gynhyrchydd a Cyfarwyddo
Elis Derbyshire
DOP, Cyfarwyddo a Golygu
Andy Pritchard
Rheolwr Cynhyrchu
Iona Rhys
Gyda diolch i
Cyngor Sir Conwy
Welsh Highland Railway
Caffi Spooners
Prohibition Porthaethwy
Prifysgol Bangor
Alun Roberts
Ffion Haf
Catrin Morris
Label cyhoeddi
Recordiau Cosh
Cynhyrchydd
Rich Roberts
Geiriau/Lyrics:
Daw y tonnau nol i ganu’r un hen stori
Hoel eu hanes yn yr ewyn gwyn
ma’n fy atgoffa i o, be nes i anghofio
Ble dwi angen dod i deimlo hyn
Oni’n aros yma ben fy hun
Nes i deimlo’r pwysa’n codi
Nes i drio gafael yn dy lun
I gael man i angori
Nôl a nôl i’r bae
Aros i dy lygid gau Dy lygid gau
Bob yn hyn a hyn ma’n Amser newid siwrna
Dal y gwynt i gyrraedd pen y bryn ond
Os ti’n aros heno, fydd dy gorff yn cofio
Ble ti angen dod i deimlo hyn
Wyt ti’n trio neud o ben dy hun A ti’n trio peidio boddi
Wyt ti’n trio aros ar ddi-hun
I gael man i angori
A ma cân yr ewyn erbyn hyn wedi canu diwedd stori
Ond daw cyfle eto’i ddal yn dynn Rhwng bob ennyd sy’n bodoli
Awn ni nôl i’r bae i weld y byd
Awn ni weld y tonnau’n codi
Nawn ni aros am ryw ddarn o hud I gael man, i angori
14 окт 2024