Esbonio’r camau nesaf wrth adrodd pryderon diogelu.
Roedden ni eisiau gwneud yn siŵr nad oeddech yn colli mas ar DPP sy’n bwysig. Dyna pam y gwnaethom greu ein sianel RU-vid @My-Progression a bob wythnos rydym yn cyflwyno hyfforddiant a phynciau DPP i chi, i’ch helpu dal ati a’ch gyrfa.
Un pwnc pwysig yw Diogelu, dylai fod pob addysgwr ddealltwriaeth ddwys cyn gweithio gyda phlant a phobl ddiamddiffyn. Fel siaradwr Cymraeg brodorol, roeddem am sicrhau y gallem gyflwyno’r wybodaeth bwysig hon yn y ffordd orau bosibl i chi.
Unwaith y byddwch wedi gwylio’r fideos, gallwch gasglu tystysgrifau i brofi eich gwybodaeth, sy’n cyfateb i Lefel 1 mewn hyfforddiant diogelu.
Ewch i wefan My-Progression i gael mynediad iddynt: www.my-progres...
Peidiwch ag anghofio tanysgrifio ar RU-vid i weld gweddill ein fideos ar weithio ym myd addysg.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu syniadau ar gyfer fideo i ni i greu, byddem wrth ein bodd i glywed wrthoch. E-bostiwch ideas@my-progression.com a bydd rhywun mewn cysylltiad.
6 окт 2024