Fideo gan / video by 'Yws Gwynedd'
Cyfarwyddwr ffotograffiaeth / DOP - ffotoNant
Nes i ddeud i fod o’n annodd
Ar ddiwedd dydd sa’m byd yn hawdd
Os dio’n wbath yn werth ei afael
I gydio yn dy law
Os ti’n meddwl fod hi’n rhy hwyr
I gymud cam ymlaen
Cofia er yn hwyr ti byth yn y diwedd os ti’n plygu dan y straen
Dim ond dau fyd sy’n galw ni yn ôl
Dim ond dau fyd, byd y dewr a byd y ffôl
Dim ond dau fyd sy’n galw ni yn ôl
Dim ond dau fyd
Does na’m poen sydd werth ei gadw
Pan fo’r hiraeth yn un mawr
A ma’n amhosib cal un i leddfu
Pan fo deg yn mynd i lawr
Os ti’n meddwl fo na ddim mwy
A fel hyn oedd petha fod
Cofia fod na fwy na hyn i brofi os ti’n penderfynu bod
Dim ond dau fyd sy’n galw ni yn ôl
Dim ond dau fyd, byd y dewr a byd y ffôl
Dim ond dau fyd sy’n galw ni yn ôl
Dim ond dau fyd
Gawn ni siarad am oes
Gawn ni grio a gwennu am oes
Dim ond dau fyd sy’n galw ni yn ôl
Dim ond dau fyd, byd y dewr a byd y ffôl
Dim ond dau fyd sy’n galw ni yn ôl
Dim ond dau fyd
Recordiau Côsh Records 2022
Cyhoeddiadau Côsh Records 20222
14 окт 2024